Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 5 Tachwedd 2018
Amser:
14.30 -
16.23
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5020
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mick Antoniw AC (Cadeirydd) Dawn Bowden AC Suzy Davies AC Mandy Jones AC Dai Lloyd AC |
Tystion: |
Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Tim Render, Llywodraeth Cymru Peter Mcdonald, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Ruth Hatton (Dirprwy Glerc) Alys Thomas (Ymchwilydd) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Cafwyd ymddiheuriadau gan Lee Waters AC.
Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau ac roedd yn fodlon arnynt.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwynt technegol a nodwyd.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd o ran rhinweddau.
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a bydd yn adrodd i'r Cynulliad yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd o ran rhinweddau.
Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad yr Offeryn Statudol a chytunwyd yn y sesiwn breifat i gyhoeddi sylwadau ar wefan y Pwyllgor.
Trafododd y Pwyllgor Femorandwm Cydsyniad yr Offeryn Statudol a chytunwyd yn y sesiwn breifat i gyhoeddi sylwadau ar wefan y Pwyllgor.
Nododd y Pwyllgor y datganiadau ysgrifenedig a chytunodd yn y sesiwn breifat i gyhoeddi sylwadau ffeithiol ar wefan y Pwyllgor.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig.
Ymrwymodd Ysgrifennydd y Cabinet i roi gwybodaeth i'r Pwyllgor yn dilyn cyfarfod pedairochrog Gweinidogion y DU a gynhelir mewn pythefnos. Bydd y Pwyllgor yn cyflwyno adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Amaethyddiaeth erbyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiadau, sef 14 Rhagfyr 2018.
Nododd y Pwyllgor y llythyr oddi wrth Charles Walker AS, Cadeirydd Pwyllgor Gweithdrefnau Tŷ'r Cyffredin a chytunodd i ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru er mwyn trafod y mater ymhellach.
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
Nododd y Pwyllgor y llythyr.
Nododd y Pwyllgor yr adroddiad.
Derbyniwyd y cynnig.
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet mewn perthynas â Bil Amaethyddiaeth y DU.
Ystyriodd y Pwyllgor sut yr ymdrinnir ag Offerynnau Statudol y mae angen cydsyniad arnynt yn unol â Rheol Sefydlog 30A a datganiadau ysgrifenedig a gyhoeddir o dan Reol Sefydlog 30C a chytunwyd i gyhoeddi sylwadau ar wefan y Pwyllgor ar ôl ystyried pob offeryn statudol.
Bu'r Pwyllgor yn trafod ac yn nodi nodyn cyngor cyfreithiol mewn perthynas â'r Bil Ifori. Nid yw'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi cael ei gyfeirio'n ffurfiol i'r Pwyllgor ac felly ni fydd y Pwyllgor yn cyflwyno adroddiad arno.